Ceisio Adeiladu Diwylliant Data yn Eich Sefydliad Chi?

Yn cael anhawster adeiladu gallu'ch sefydliad i weithio gyda data? Defnyddiwch ein rhaglen dysgu ymarferol i gic-gychwyn eich diwylliant data. Rydym yn darparu fideos hwyluso i'ch helpu i gynnal cyflwyniadau creadigol i'r bobl annhechnegol yn eich sefydliad. Nid sesiynau hyfforddiant anniddorol am daenlenni sydd yma! Er mwyn cic-gychwyn eich diwylliant data rydym ni'n awgrymu eich bod yn cynnal un gweithgaredd y mis dros ginio pecyn yn eich sefydliad. Dysgwch fwy yn https://datacultureproject.org.

Ymunwch â'r Data Culture Project Nawr!

Pam defnyddio DataBasic?

Mae Rahul Bhargava a Catherine D'Ignazio, creawdwyr Databasic, yn disgrifio sut all pawb ddweud storïau gyda data.

Ynghylch DataBasic

Hygyrch i Bawb

Mae technolegau digidol wedi grymuso pobl ag anableddau mewn amrywiaeth o ffyrdd, ac mae safonau gwe newydd wedi ei gwneud yn haws nag erioed i adeiladu offerynnau newydd sy'n hygyrch i bawb. Mae DataBasic yn gweithredu'r technolegau hynny i gefnogi darllenwyr sgrîn er mwyn i'r sawl â nam ar eu golwg allu dechrau gweithio gyda data mewn ffyrdd newydd a chyffrous.

Gwneud Un Peth yn Dda

Mae llu o offerynnau'n bodoli ar gyfer gweithio gyda data; llawer mor gymhleth eu bod yn frawychus hyd yn oed i ddechrau. Rydym ni wedi creu pob offeryn DataBasic i ganolbwyntio ar wneud un peth yn dda, fel eich bod yn gwybod yn union beth yw defnyddiau pob un. Mae hyn yn gadael i ni ganolbwyntio ar wneud yr un peth hwnnw'n syml ac yn rymus.

Ffitio i mewn i'ch Piblinell

Mae gweithio gyda data ar-lein bob amser yn golygu defnyddio cymysgedd o offer. Ni fyddwn yn datrys y broblem honno'n fuan iawn. Felly rydyn ni wedi adeiladu DataBasic i dderbyn amrywiaeth o fathau o ddata, a rhoi'r canlyniadau mewn fformatiau sy'n gyfarwydd i chi. Darllenwch beth o gynnwys y wefan a lawrlwythwch ffeiliau CSV o'ch canlyniadau. Dyma ddau yn unig o'r dulliau rydym yn ceisio eich cyflwyno i'r ffordd mae'r mwyafrif o bobl yn gweithio gyda data ar-lein.

Ffocws ar Ddysgu

Weithiau nid gwell yw cyflymach. Os ydych chi wir eisiau dysgu sut i weithio gyda data i ddarganfod storïau i'w dweud, bydd angen i chi ddefnyddio offer sy'n gwneud mwy na dim ond rhoi siart i chi cyn gynted â phosibl. Dyna pam rydym ni wedi creu DataBasic gyda dysgwywr mewn golwg. Ddim yn gwybod ystyr rhai geiriau technegol? Hofrannwch drosto i weld diffiniad cyflym. Ddim yn siŵr sut i ddefnyddio offeryn? Rhowch gynnig ar beth o'r data engreifftiol difyr fel geiriau caneuon ac achosion o weld UFO rydym ni wedi'i gynnwys i'ch rhoi ar ben y ffordd.

Sicrhau Eich Preifatrwydd

Gyda mwyfwy o offerynnau sy'n canolbwyntio ar ddata yn symud ar-lein, gall fod yn anodd weithiau dweud ble mae'ch data chi'n mynd a beth fydd yn digwydd iddo ar ôl i chi ei lanlwytho. Rydym ni'n storio gwybodaeth a lanlwythwch am ddim ond yr amser mae'n ei gymryd i ni ei dadansoddi, yna rydym ni'n ei dileu. Mae'r canlyniadau cyfanredol a ddangoswn i chi - metadata - yn cael eu cadw am 60 diwrnod, ac yna rydym ni'n eu dileu. Mae'r holl gyfathrebu yn digwydd dros https, felly ni fydd neb arall yn gallu gweld y data wrth i chi ei lanlwytho.

Gan Addysgwyr, i Addysgwyr

Gweithio gyda phlant ysgol uwchradd? Newyddiadurwyr? Grwpiau cymunedol? Myfyrwyr graddedig? Ninnau hefyd!!! Dyna pam wnaethom ni ddylunio a phrofi offerynnau a gweithgareddau DataBasic yn ein hystafelloedd dosbarth a gweithdai gyda'r cynulleidfaoedd hynny. Mae'r offerynnau hyn yn ganlyniad ein rhwystredigaeth gyda phethau roedden ni'n ceisio eu defnyddio yn ein dosbarthiadau myfyrwyr gradd, felly rydym ni'n cydymdeimlo.

Dyluniwyd a Datblygwyd gan

Prif Ymchwilwyr:

Rahul Bhargava (Northeastern University) & Catherine D'Ignazio (MIT)

Datblygu meddalwedd: GitHub

Rahul Bhargava, Catherine D'Ignazio, the Engagement Lab & Stephen Suen

Cyfeithiad Sbaeneg:

Aleszu Bajak, Víctor Rogelio Hernández Marroquín & Mariel García-Montes

Cyfieithiad Portwgäeg:

Daniel Paz de Araújo gyda chyfraniadau gan Emilie Reiser

Cyfieithiad Daneg:

Aarhus Public Libraries

Cyrchu data Sbaeneg:

Miguel Paz & Mariel García-Montes

Ffynonellau data Portwgäeg:

Vivian Guilherme & Daniel Paz de Araújo

Cyrchu data Daneg:

Aarhus Public Libraries

Cyrchu data Cymraeg:

Data Cymru

Ni fyddai'r prosiect di-dâl a ffynhonnell agored hwn yn bosibl heb gefnogaeth hael:
Sefydliad John S. a James L. Knight, Cronfa Ddatblygu Cyfadran Coleg Emerson & Sefydliad Shuttleworth

Northeastern School of Journalism and Media Innovation
Engagement Lab at Emerson College
Dept of Urban Studies and Planning at MIT