Yn cael anhawster adeiladu gallu'ch sefydliad i weithio gyda data? Defnyddiwch ein rhaglen dysgu ymarferol i gic-gychwyn eich diwylliant data.

Mae data ym mhobman y funud yma. Ond mae llawer o sefydliadau fel eich sefydliad chi yn ei chael yn anodd gweithio allan sut i adeiladu capasiti i weithio gyda data. Does dim rhaid i chi fod yn wyddonydd data; mae arnoch chi angen ddiwylliant data.

Defnyddiwch ein rhaglen ddysgu hunan-wasanaeth i hwyluso cyflwyniadau difyr, creadigol i'r bobl annhechnegol yn eich sefydliad. Nid hyfforddiant anniddorol am daenlenni sydd yma. Mae'r offerynnau a'r gweithgareddau am ddim isod yn ymarferol ac wedi'u dylunio i gwrdd â phobl lle maen nhw ar draws eich sefydliad a meithrin eu gallu i weithio gyda data. Ceisiwch gic-gychwyn eich diwylliant data drwy gynnal un gweithgaredd y mis dros ginio pecyn. Bydd y fideos a'r arweiniadau hwyluso isod yn eich tywys trwy eich cynnal eich hunan. Mae pobl mewn mwy na 30 o sefydliadau wedi gwneud hynny'n barod - o lyfrgell gyhoeddus leol, i'r World Food Progam.

Sut mae adeiladu diwylliant data? Defnyddiwch ein fideos a'n harweiniadau i gynnal un gweithgaredd y mis dros giniawau pecyn yn eich sefydliad chi.

Proses Data

Dyma broses rydym ni'n ei chyflwyno i'ch symud chi o ddata i stori effeithiol. Parhewch i sgrolio i lawr i ddysgu am y gweithgareddau rydym ni'n eu cynnig i chi eu cynnal ar bob cam o'r ffordd. Proses Data  

Ymarferion Cynhesu

Cyn neidio i mewn i ddarganfod data neu ddweud storïau, mae'n bwysig gwneud rhai gweithgareddau cynhesu i sbarduno meddylfryd data eich sefydliad. Mae'r rhain yn weithgareddau cyflym, hwyl ac ymarferol sy'n bwriadu hybu trafodaeth, symbylu syniadau creadigol a meithrin hyder i gymryd y cam nesaf. Er enghraifft, arwain cydweithwyr i Adeiladu Cerfluniau Data gyda deunyddiau crefft i archwilio dulliau gwahanol o gyfathrebu'r un set ddata syml. Mae gweithio gyda pompoms, glanhawyr pib, neu ddeunyddiau lleol eraill yn newid eich ymagwedd at ddata, gan adael i chi ganolbwyntio ar ddulliau cyflym chwareus o chwilio am storïau. Dad-adeiladwch dataviz i hybu'ch sgiliau mewn deall delweddiadau data, a datblygu bwa natarif cryf seiliedig ar ddata eich hun.

Gofyn Cwestiynau

Pa gwestiynau all (ac na all) gael eu hateb gyda data? A phan fyddwch chi'n syllu ar rai rhesi a cholofnau, sut ydych chi'n dechrau gwneud synwyr o'r data sydd o'ch blaen? Ar yr adeg hon, rydych chi'n dysgu sut i gymryd y cam cyntaf yn y broses dadansoddi data drwy ofyn cwestiynau da. Defnyddiwch WTFcsv i grynhoi data taenlen yn gyflym, taflu syniadau am gwestiynau amdano, cysylltiadau posibl â setiau data eraill, a rhagfarnau posibl byddwch efallai'n dod â nhw iddo. Cofiwch – nid yw'r data byth yn siarad drosto ei hun – chi sy'n ei helpu i siarad drwy ofyn cwestiynau gwell a gwell byth. Llenwch Daenlen Bapur i gyflwyno pobl i fathau gwahanol o ddata a'u helpu i feddwl am sut mae pobl yn ei llenwi.

Casglu Data

Yn aml nid ydych yn cydnabod y data sydd gennych chi'n barod! Mae data ym mhobman o'n cwmpas, ond mae'n gallu bod yn anodd ei adnabod a'i ddisgrifio. Mae arnoch chi angen y data cywir i ddweud stori gryf. Fel y dywedant, "sbwriel i mewn, sbwriel allan." Hefyd mae angen cofio na fydd un set ddata sengl o bosib yn gallu ateb eich cwestiynau. Yn aml, cyfuno setiau data yw'r ffordd orau o greu stori fwy cyflawn. Defnyddiwch Connect the Dots i archwilio data am gyfrannu torfol o'ch cynulleidfa i'w ddadansoddi gyda'ch gilydd fel rhwywdaith. Neu Defnyddiwch WTFcsv i feddwl am sut i gasglu'r data mae arnoch chi ei angen i ateb cwestiwn.

Dadansoddi Data

Gall data fod yn frawychus, yn arbennig pan fo'n rhaid ei ddadansoddi. Ond cofiwch, mae ystadegau i raddau helaeth dim ond yn ffyrdd arbennig o gyfrif. Rydyn ni i gyd yn gallu cyfrif yn weddol da! Nid yw sefydlu diwylliant data yn golygu y byddwn ni i gyd yn ddewiniaid ystadegol ond mae yn golygu dysgu digon am ddadansoddi i ddeall ei botensial creadigol. Mae'r broses dadansoddi data yn gyfle i ddod â phobl ynghyd. Mae llawer o ffyrdd o wneud hyn i ddod o hyd i stori. Defnyddiwch WordCounter i ddysgu am ddadansoddi data testun i ddod o hyd i storïau. Defnyddiwch Connect the Dots i ddadansoddi graff rhwydwaith yn gydweithredol. Defnyddiwch SameDiff i ddysgu sut gall algorithmau eich helpu i ddadansoddi data mewn ffyrdd mwy haniaethol.

Dweud Eich Stori

Dweud eich stori yw'r elfen hanfodol. Nid yw rhifau ar eu pen eu hunain yn ddigon i wneud eich achos nag ysgogi pobl i weithredu. Mae'n rhaid i chi roi cyd-destun i'ch data, a'i gyfuno i greu naratif er mwyn i bobl gael ei ddeall. Brasluniwch stori gyda WordCounter i ymarfer cyfathrebu stori seiliedig ar ddata yn weledol. Gwnewch We Geiriau i symud o syniadau a rhifau haniaethol i symbolau gweledol cadarn. Atgymysgwch Ffeithlun i ymarfer dweud yr un stori mewn ffyrdd gwahanol.

Rhowch Gynnig Arno

Sut ydych chi'n gwybod a ydy'ch stori'n gweithio? Ydy'r data rydych chi'n ei gynnwys yn ategu'r naratif a rowch? Gall fod yn anodd iawn rhoi eich hun yn esgidiau'ch cynulleidfa i geisio deall pa fath o stori a fydd yn newid eu golwg o'r byd neu'n eu hysgogi i weithredu. Ac efallai bod gennych chi nifer o gynulleidfaoedd. Mae pob cynulleidfa bosibl yn dod â gwahanol gredoau a phrofiadau at ddeall eich neges. Rhowch gynnig ar ConvinceMe i ymarfer dweud storïau gwahanol wrth gynulleidfaoedd gwahanol. Ysgrifennwch Lyfr Stori Data i ymarfer ysgrifennu bwâu naratif cymhellol sy'n cael eu cefnogi gan y data rydych chi'n gweithio gydag ef.

Cysylltu ag Eraill

Mae ceisio adeiladu diwylliant data yn gallu bod yn ymdrech unig mewn sefydliadau sydd heb gydnabod pwysigrwydd data. Ymunwch â grŵp trafod Diwylliant Data i gysylltu â phobl eraill a myfyrio ar sut mae'r gweithgareddau hyn yn gweithio, neu'n methu gweithio, i'ch sefydliad chi.

Ymunwch â'r grŵp trafod

Amdanom ni

Mae'r Data Culture Project yn fenter DataBasic.io. Rydym ni wedi cyfuno'r blynyddoedd o waith gyda chyrff di-elw mewn un man i'ch helpu i adeiladu diwylliant data. DataBasic.io yw cynnyrch gwaith Catherine D’Ignazio a Rahul Bhargava.