Adeiladwch a Dadansoddwch Rwydwaith

Dysgwch sut i ofyn gwahanol fathau o gwestiynau ar sail rhwydwaith o ddata

Sefydlu

Bydd y gweithgaredd hwn yn cymryd 30 i 45 munud. Dylai fod gennych chi'r deunyddiau hyn wrth law:

  • Cysylltiad sylfaenol â'r rhyngrwyd
  • Ffôn, llechen, neu gyfrifiadur am bob grŵp bach o 3 pherson
  • Taflunydd sy'n gysylltiedig â chyfrifiadur

Lawrlwythwch ac argraffwch yr arweiniad gweithgaredd

1

Cychwyn y Gweithgaredd

Mae graffiau rhwydwaith yn boblogaidd iawn ar hyn o bryd, ond ychydig o bobl sy'n gwybod sut i'w darllen, na pham y gallan nhw fod yn ddefnyddiol. Yn y gweithgaredd hwn byddwch yn creu set ddata am fwytai lleol mae pobl yn eu hargymell, yn adeiladu graff rhwydwaith o'r data hwnnw, ac yna'n meddwl am gwestiynau gallwch chi eu gofyn iddo. Byddwch chi'n defnyddio offeryn Connect the Dots Databasic.io i wneud hyn.

Defnyddiwch Connect the Dots

Bydd y cyfranogwyr yn deall ac yn dechrau dod yn gyfarwydd â rhai termau a dulliau safonol o weithio gyda graffiau rhwydwaith. Dechreuwch drwy rannu enghreifftiau sy'n ysbrydoli, yna llenwch daenlen gyda'ch gilydd o fwytai a phwy sy'n eu hargymell. Dylai fod dwy golofn i hyn - 'Person' a 'Bwyty'. Yna gludwch y data hwn i mewn i Connect the Dots i'w ddadansoddi. Rhannwch yr URL a gofynnwch i bobl edrych arno, neu ddata enghreifftiol arall, i chwilio am fewnwelediadau ac ysgogi cwestiynau.

2

Gofynnwch i Bawb Rannu Eu Hadborth

Ar ôl 10 munud dewch â phawb ynghyd eto i rannu unrhyw fewnwelediadau sydd ganddynt. Oedd unrhyw fanteision amlwg i ddadansoddi'r data hwn fel rhwydwaith (yn hytrach na thabl)? Oedd unrhyw gwestiynau a oedd yn fwy anodd treiddio iddynt? Oedd unrhyw rai o'r algorithmau y soniwyd amdanynt yn ddefnyddiol?

3

Dewch â'r Sesiwn i ben a siaradwch am y Camau Nesaf

Nawr eich bod wedi gwneud tipyn o ddadansoddi graff rhwydwaith sylfaenol, helpwch y cyfranogwyr i feddwl am unrhyw ddata rhwydwaith sydd gan eich sefydliad wrth law. Oes unrhyw gwestiynau a gododd, neu syniadau, am gamau y dylai pobl eu cymryd gyda'ch data mewnol?